Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
15 Tachwedd 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
(30 munud)
4 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Gofyn i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth
Heledd Fychan (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn sgil cyhoeddi Adolygiad Annibynnol Undeb Rygbi Cymru?
5 Datganiadau 90 Eiliad
(0 munud)
6 Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024-25
(30 munud)
NDM8404 Ken Skates (De Clwyd)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024-25, fel y pennir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024-25, a osodwyd gerbron y Senedd ar 8 Tachwedd 2023, a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26 (ii).
Dogfennau ategol
Ymateb Comisiwn y Senedd i adroddiad y Pwyllgor Cyllid
7 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil i atal gwerthu e-sigaréts untro
(30 munud)
NDM8366 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n atal gwerthu e-sigaréts untro.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) atal e-sigaréts untro rhag cael eu gwerthu;
b) cyflawni cyfrifoldebau byd-eang Cymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol;
c) mynd i'r afael â'r ffaith bod e-sigaréts untro yn berygl i iechyd y cyhoedd;
d) diogelu cenedlaethau'r dyfodol rhag problemau iechyd gan gynnwys niwed i’r ysgyfaint; ac
e) rhoi’r gorau i ddefnyddio lithiwm mewn cynhyrchion untro.
8 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Diwrnod Rhyngwladol y Dynion
(60 munud)
NDM8405 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Diwrnod Rhyngwladol y Dynion 2023 yn cael ei gynnal ar 19 Tachwedd: digwyddiad blynyddol i dynnu sylw at bwysigrwydd cydnabod a mynd i'r afael â'r heriau iechyd meddwl a chorfforol y mae dynion yn eu hwynebu.
9 Cyfnod Pleidleisio
10 Dadl Fer
(30 munud)
NDM8395 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
Mynediad at ofal ysbyty yn y de-ddwyrain
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 21 Tachwedd 2023